Header image
   : Llanystumdwy . Cricieth . Gwynedd . Cymru . post@llanystumdwy.com
 


 
Tafarn Y Plu

Tafarn Y Plu yw un o dafarndai Cymreiciaf yn y byd. Mae'r adeilad ei hun yn cofio canrifoedd o firi a hwyl ynghanol pentref Llanystumdwy ac mae'r hwyl hwnn'n parhau hyd heddiw.
Erbyn hyn mae dewis da o fwyd sydyn wrth y bar neu ginio mawr yn Y Caban. I olchi'r cwbl i lawr mae dewis helaeth o gwrw Cymreig (Bragdy Conwy, Brains, Felinfoel), ynghyd â Guinness, seidar, gwin a gwirodydd o bell ac agos.
Bob hyn a hyn bydd bandiau fel Bob Delyn a'r Ebillion a Daniel Lloyd a Mr Pinc yn chwarae'n y dafarn. Yn yr haf byddant yn perfformio mewn pabell yn yr ardd. Yn ogystal â chwmni difyr y bobl leol mae beirdd a chantorion ac enwogion o fri yn galw heibio i'r Plu am beint.

Cliciwch ar y stribed las isod i fynd am dro i wefan Y Plu.


Tafarn Y Plu, Llanystumdwy, Criccieth, Gwynedd
Ffôn: 01766 523276
Ebost: post@tafarnyplu.com

Cwrw gwych chwmni da

Cwrw da Bwyd blasus

Gardd gwrw Cerddoriaeth fyw



 
         
Gwefan gan SMALA (01766) 5237377 • Lluniau i'r wefan gan my garden