Header image
   : Llanystumdwy . Cricieth . Gwynedd . Cymru . post@llanystumdwy.com
 


 
Tywydd Llanystumdwy

Hinsawdd Arbennig
Er bod sawl un yn edrych ar draws y môr tua Llanystumdwy yn dweud ei bod o hyd yn heulog yma, (llawer amlach na'r gwirionedd), y farn gyffredin ydy bod gan yr ardal hon ei hinsawdd ei hun.

Arfordir Eifionydd
Saif Llanystumdwy ar dir sydd yn syrthio'n raddol tua'r môr gan wynebu'r de, felly hyd yn oed yn y gaeaf mae'r haul ar adegau yn tywynnu ar y pentref o wawr tan nos.

Ardal gynnes
Oherwydd effaith Dwr Cynnes Y Gwlff yn llifo drwy'r môr rhyngom ag Iwerddon, mae glaw yn anorfod yn Llanystumdwy fel pobman arall! Serch hynny ceir llai o lawer o law yn y pentref nag a geir yn Eryri bymtheg milltir i ffwrdd. Pan oedd y record am y glaw mwyaf yn syrthio mewn diwrnod yn cael ei gofnodi ar lethrau'r Wyddfa, roedd yr haul yn tywynnu yn Llanystumdwy!

Glawn neu hindda
. .Rhagolygon tywydd gan y BBC
.Camera ar wefan Gwefan Gwesty'r George IV
.Gwefan y Swyddfa Dywydd ar gyfer Porthmadog

Traeth

Yr arfordir rhwng Llanystumdwy a Chricieth




 
         
Gwefan gan SMALA (01766) 5237377 • Lluniau i'r wefan gan my garden