Er mai pentref bychan ydy Llanystumdwy, mae hen ddigon o gyfleusterau i blesio unrhyw un: tafarn leol, Clwb Pêldroed, Canolfan Ysgrifennu, caffi ar lan Afon Dywfor, Parc Saethu Peli Paent, llefydd gwersylla, llwybrau cerdded môr a a glan afon, pysgota llyn, afon a môr, dewis da o lety a hyd yn oed fferm gwningod ar agor i ymwelwyr.
Mae digonedd o bethau i'w gwneud yma, er enghraifft, bob Awst mae'r Clwb Pêldroed yn trefnu Rasus Malu poblogaidd iawn. Diwrnod difyr i'r teulu i gyd. Drwy gydol y flwyddyn mae Tafarn y Plu yn trefnu nosweithiau cwis a nosweithiau bwyd arbennig (e.e. noson Fecsican, noson gyrri ac yn y blaen). Mae'r dafarn hefyd yn trefnu i sawl band chwarae tu mewn neu yn yr ardd. Fis Tachwedd bob blwyddyn mae Gwyl Gynganeddu yn Nhy Newydd a lleoliadau eraill yn y pentref.
I'w ddefnyddio fel man canolog i grwydro Eifionydd, Penrhyn Llyn neu Eryri - Llanystumdwy ydy'r lle.
|