Header image
   : Llanystumdwy . Cricieth . Gwynedd . Wales . post@llanystumdwy.com
 


 
Pentref Llanystumdwy

Pentref bychan yn Eifionydd yw Llanystumdwy, pentref serch hynny sy'n denu ymwelwyr o bedwar ban y byd. Saif y pentref oddiar brif ffordd yr A497, rhwng Cricieth a Phwllheli. Drwy'r pentref rhed Afon Dwyfor i'r môr cyfagos.

Prif hynodrwydd y pentref yw mai yma y magwyd David Lloyd George, un o'r Prif Weinidogion ewnocaf. Yma, yn Highate, hen siop y crydd, bu Lloyd George yn byw tan yr oedd yn un ar bymtheg oed. Dyma hefyd y daeth yn wleidydd ifanc a chraff a lle magodd, dan adain ei ewythr (a oedd yn bregethwr lleyg) wrthwynebiad tuag at y bonedd a'r tir feddiannwyr.

Mae ei fedd i'w weld ar lan Afon Dwyfor o fewn dau funud i ganol y pentref, bedd a gynlluniwyd gan bensaer pentref Portmeirion, sef Syr Clough Williams-Ellis. Yn wir, mae dylanwad pensaerniaeth Syr Clough Williams-Ellis yn amlwg yn y pentref (Capel Moriah, Gatiau yr Amgueddfa a ffenestr Llyfrgell Ty Newydd). Uwchben bedd Lloyd George mae englyn yn ei goffau gan ei nai, a chyn-Archdderwydd, Dr William George. Yn nghanol y pentref wedyn mae Amgueddfa Lloyd George yn llawn o bethau'n adrodd hanes ei fywyd a'i yrfa ddisglair. Ei gartref olaf,
Ty Newydd sydd hefyd yn y pentref yw'r Ganolfan Ysgrifennu Genedlaethol.

Mwy am y pentref >

Cartref Lloyd George


Highgate cartref Lloyd George yn blentyn, a'i fedd ger yr afon.

Mae canol y pentref, gyda'i adeiladau cerrig, yn ardal o warchodaeth pensernïol sy'n cynnwys sawl adeilad cofrestredig, Highgate yn un ohonyn nhw. Mae tafarn y pentref Tafarn y Plu a'r ty dros ffordd medden nhw dros ddau gant saith deg oed. O gwmpas y pentref mae ardal amaethyddol brysur gyda'r Gymraeg yn iaith bob dydd i ganran uchel iawn o'r bobl.

...
Tafarn Y Plu a hen, hen fwthyn yn nghanol y pentre




 
         
Gwefan gan SMALA (01766) 523737